Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 4 Tachwedd 2019 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.35 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2019(7) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Siân Gwenllian AC David J Rowlands AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Gareth Price, Pennaeth Cyfathrebu Manon George, Y Gwasanaeth Ymchwil Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.2 Datgan buddiannau
Nid oedd buddiannau i’w datgan.
1.3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi.
Roedd dau fater yn codi. Cafodd y Comisiynwyr wybod am y sylwadau a gafwyd ar y cynigion i symud buses y Cynulliad i leoliad y tu allan i Gaerdydd, a’r newidiadau arfaethedig i’r modd y rheolir costau’n gysylltiedig â Swyddfeydd yr Aelodau sy’n cael eu hariannu’n ganolog gan y Comisiwn. Trafodwyd yr ail fater ymhellach yn eitem 6.
2 Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2020-21 - Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21 drwy'r broses graffu. Derbyniwyd addasiadau a wnaed i ddarparu gwybodaeth gliriach am gostau’n ymwneud â'r Comisiynydd Safonau. Cytunwyd hefyd y dylid gwneud addasiad pellach i adlewyrchu amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac a ddefnyddir yn y Penderfyniad.
Nododd y Comisiynwyr yr amserlen ar gyfer gwaith yn ymwneud â’r gyllideb yn ystod mis Tachwedd 2019, a chytunwyd ar eu hymateb i'r argymhellion a godwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Cyllid a'u Cyllideb Derfynol ar gyfer 2020-21, cyhyd ag y caiff yr addasiad uchod ei adlewyrchu yn y ddau.
3 Cyfathrebu ac Ymgysylltu
3.1 Dull o godi ymwybyddiaeth o Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru), ac etholiad 2021
Trafododd y Comisiynwyr gynigion i ddatblygu dulliau cyffredin o gyfathrebu ac ymgysylltu mewn perthynas â thri maes gwaith craidd hyd at fis Mai 2021 - Newid Enw, Rhoi’r Bleidlais i bobl ifanc 16 oed a’r Etholiad Cyffredinol yng Nghymru yn 2021.
Roedd y Comisiynwyr yn gefnogol i’r cynigion yn gyffredinol, ac roeddent yn cydnabod y byddai hynt y Bil yng Nghyfnodau 3 a 4 yn dylanwadu ymhellach ar y manylion penodol. Trafodwyd hefyd y cysylltiad â’r gwaith y byddai’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn ymgymryd ag ef, a’r ffaith y byddai’n fuddiol ymgymryd â gwaith ychwanegol i gael gwybod rhagor am y prif gynulleidfaoedd a’u hanghenion.
3.2 Adroddiad y Cynulliad Dinasyddion
Cafodd y Comisiynwyr gyflwyniad yn amlinellu’r broses o gynnal y Cynulliad Dinasyddion, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, a’r canlyniadau.
Trafodwyd y tri argymhelliad cyffredinol a ddeilliodd o'r digwyddiad: Cynulliadau dinasyddion; Cyd-greu; a Llwyfannau Arbenigol, a'u perthynas â’r dulliau ymgysylltu y mae’r Comisiwn yn eu defnyddio ar hyn o bryd.
Cytunodd y Comisiynwyr i rannu casgliadau’r adroddiad â chadeiryddion y pwyllgorau, sef y rhai a all eu defnyddio orau, a gofyn am adborth ganddynt hwy a chan aelodau'r pwyllgorau i fesur y diddordeb yn y dulliau ymgysylltu hyn.
Cytunwyd i gefnogi, mewn egwyddor, y cynnig i ehangu'r dulliau ymgysylltu sydd ar gael, yng nghyd-destun sicrhau bod eu pwrpas yn glir a’r ffaith y byddai goblygiadau o ran cost ac amseru pe bai'r Cynulliad am i'r Comisiwn fwrw ymlaen â'r argymhellion.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd i rannu'r adroddiad â'r Pwyllgor Busnes er gwybodaeth ac i roi adborth, maes o law, i’r rhai a oedd ynghlwm wrth y Cynulliad Dinasyddion.
4 Diwygio'r Cynulliad: Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – y wybodaeth ddiweddaraf
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sawl mater yn ymwneud â Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn dilyn trafodion Cyfnod 2 a chyn Cyfnod 3. Trafodwyd y gwelliannau’n ymwneud â phryd y bydd pobl ifanc 16/17 oed yn cael yr hawl i bleidleisio, a materion yn ymwneud ag anghymwyso’r rhai sydd â mandad deuol, a hynny er mwyn creu mwy o eglurder yn unol argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y Pedwerydd Cynulliad.
Trafododd y Comisiynwyr y broses welliannau, a’r ffaith bod y Bil yn awr yn ymdrin â materion nad oedd y Comisiwn wedi’u cynnwys yn niwyg gwreiddiol y Bil, a hynny oherwydd gwelliannau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 2.
Bydd y Llywydd yn adlewyrchu'r drafodaeth yn nadl Cyfnod 3.
Nododd y Comisiynwyr y llythyr a anfonwyd gan y Llywydd at arweinwyr y pleidiau, y Rheolwyr Busnes, y Comisiynwyr, a’r Aelodau a gyflwynodd welliannau.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit
Nododd y Comisiynwyr y ffaith bod y timau busnes a’r gwasanaethau corfforaethol cysylltiedig â gwaith y Comisiwn yn parhau â’u paratoadau ar gyfer senarios amrywiol yn ymwneud â Brexit.
6 Adolygiad y Bwrdd Taliadau o'r Penderfyniad
Trafododd y Comisiynwyr ddau fater y tynnodd Cadeirydd y Bwrdd Taliadau eu sylw atynt mewn perthynas ag ymgynghoriad y Bwrdd yn dilyn ei Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad,
Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Bwrdd Taliadau a chytunwyd y dylai'r Llywydd ymateb i gadarnhau y byddent yn ystyried gwasanaethau All-leoli fel rhan o'r gwaith o gynllunio ar gyfer etholiad 2021; ac yn cytuno, mewn egwyddor, ar y modd y mae’r Bwrdd Taliadau yn bwriadu egluro’r cymorth a roddir i Aelodau ag anableddau yn y Penderfyniad. Wrth wneud hyn, roedd y Comisiynwyr am dynnu sylw at gwmpas llawn Cronfa Cydraddoldeb a Mynediad y Comisiwn.
• ymgynghori â'r Bwrdd Taliadau ynghylch cynnwys darparu / costau deunydd ysgrifennu Lyreco yn y Penderfyniad yn y dyfodol;
• y Comisiwn i barhau i ddarparu deunydd ysgrifennu rhagdaledig, a thalu am bostio a swmp-bostio ac argraffu; a pharhau i fonitro unrhyw gostau y gellir eu priodoli i Aelodau unigol a’u cyhoeddi’n rheolaidd o fis Mai 2021 ymlaen, i wella tryloywder; a
• defnyddio dulliau gwahanol o ddarparu rhai gwasanaethau, i leihau costau ac i sicrhau gwerth am arian.
Byddai’r Bwrdd Taliadau yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law.
7 Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth (EPLI) ar gyfer Aelodau
Cytunodd y Comisiynwyr i ofyn i’r Bwrdd Taliadau ystyried darparu Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (grid penderfyniadau y Ddogfen Awdurdodi Recriwtio (RAD))
Nododd y Comisiynwyr diweddariad y Bwrdd Gweithredol ynghylch penderfyniadau a wnaed yn ddiweddar mewn perthynas â RAD.
8.2 Cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad - datganiad o egwyddorion buddsoddi
Nododd y Comisiynwyr y newidiadau yn y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi a wnaed gan Fwrdd Pensiynau Aelodau’r Cynulliad, yn unol â’r gofynion datgelu newydd
9 Unrhyw Fater Arall
· Dywedodd y Llywydd wrth y Comisiynwyr y byddent yn cael gwybodaeth, maes o law, am adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
· Cafodd y Comisiynwyr wybod bod apêl a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn perthynas â thribiwnlys cyflogaeth wedi’i wrthod.
Byddai dyddiad y cyfarfod nesaf yn cael ei gadarnhau.